P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cian Ciaran, ar ôl casglu cyfanswm o 10,689 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Rydym ni, sy’n llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 mewn perthynas ac ansicrwydd, a sicrhau bod Asesiad llawn o’r Effaith Amgylcheddol yn cael ei gynnal cyn bod modd gwaredu unrhyw waddod pellach o orsaf pŵer niwclear Hinkley Point yn Cardiff Grounds.


Peidiwch â gadael i Lywodraeth Cymru dorri ei chyfraith ei hun!

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rhaid i’r asesiad o’r effaith amgylcheddol ddarparu

 

Data sylfaenol manwl am ymddygiad a thynged deunydd sy’n cael ei waredu yn Cardiff Grounds;

 

Dadansoddiad radiolegol llawn, gan gynnwys allyrru gronynnau alffa;

 

Asesiad manwl a chyfoes o effeithiau radiolegol posibl ar boblogaeth de Cymru;

 

Rheoli llygryddon niwclear ar y tir yn hytrach na’u gwasgaru ar y môr;

 

Parchu cytundebau ynghylch gwaredu morol;

 

Gwarchod Afon Hafren.

 

Rydym hefyd yn galw ar y Senedd nad oes buddiannau niwclear yn dylanwadu ar yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         De Caerdydd a Phenarth

·         Canol De Cymru